Dathliadau Canlyniad Arolwg Yn Ysgol Vp Llanelwy

Dathliadau Canlyniad Arolwg Yn Ysgol Vp Llanelwy


Friday 26th Apr 2024


Mae'r staff, y disgyblion a'r corff llywodraethu yn Ysgol VP Llanelwy yn dathlu ar ôl derbyn adroddiad penigamp gan arolygwyr ysgolion Estyn.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddir ar wefan Estyn, www.estyn.gov.uk yn amlygu sut mae staff yn cofleidio mentrau newydd i ddatblygu'r ysgol fel cymuned ffyniannus ac yn caniatáu i ddisgyblion fod yn ' ddysgwyr chwilfrydig a gwydn '.

 

Cafodd yr ysgol ei farnu’n dda ym mhob agwedd o’r adroddiad, yn cynnwys safonau; lles ac agwedd at ddysgu; addysgu a phrofiadau dysgu; gofal, cefnogaeth ac arweiniad; arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae'r ysgol wedi cael ei chanmol am fod ag ethos cynhwysol lle mae'r staff i gyd yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn darparu lefelau uchel o ofal, cymorth ac arweiniad. Mae athrawon yn cynllunio ystod eang o gyfleoedd dysgu diddorol ac ysgogol. Gwnânt ddefnydd effeithiol o feysydd dysgu dan do ac yn yr awyr agored, er mwyn datblygu medrau llythrennedd, creadigol a chorfforol y disgyblion yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae gan y disgyblion agweddau cadarnhaol iawn tuag at ddysgu. Mae hyn yn cefnogi eu datblygiad fel dysgwyr annibynnol ac yn eu galluogi i wneud cynnydd da.

Mae'r adroddiad yn canmol nifer o feysydd gwaith:

• Mae Cyngor yr ysgol yn ymfalchïo mewn cefnogi gwella ysgolion, er enghraifft wrth ysgrifennu at rieni i ofyn am roddion o offer ac adnoddau i wella'r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored. Mae'r criw Cymraeg yn hyrwyddo datblygiad sgiliau iaith Gymraeg y disgyblion yn llwyddiannus, drwy chwarae gemau yn Gymraeg yn ystod amser chwarae.

• Mae perthynas waith gadarn a chefnogol rhwng staff a disgyblion yn meithrin parch tuag at ei gilydd. O ganlyniad, mae ystafelloedd dosbarth yn lleoedd prysur a chynhyrchiol lle mae disgyblion yn cymryd rhan yn eu dysgu yn eiddgar. Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn adnabod anghenion unigol disgyblion yn dda. Maent yn rheoli eu hymddygiad yn sensitif ac yn bwyllog. Mae hyn yn arbennig o effeithiol o ran cynorthwyo disgyblion agored i niwed i gymryd rhan yn eu dysgu ac i wneud cynnydd da.

• Mae athrawon yn defnyddio staff cymorth yn bwrpasol i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion. Mae staff cymorth yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr i godi safonau llythrennedd

• Mae gan yr ysgol ethos cynhwysol a gofalgar lle mae disgyblion a staff yn ymfalchïo yn eu hysgol. Mae'r staff yn creu amgylchedd dysgu digyffro ac yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad a moesau ymhlith disgyblion.

• Mae aelodau o staff yn croesawu rhieni i ymweld â'r ysgol a'u hannog i gymryd rhan mewn ' diwrnodau rhannu rhieni '. Mae'r rhain yn rhoi cyfle buddiol i rieni gael gwybod sut mae eu plant yn dysgu.

• Mae darpariaeth yr ysgol i gefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn gryf. Mae ystod fuddiol o ymyraethau yn cefnogi medrau academaidd a chymdeithasol disgyblion yn llwyddiannus. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau a lles disgyblion a dargedir, ac yn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd da.

• Mae'r pennaeth dros dro yn rhoi arweinyddiaeth gref a phwrpasol i'r ysgol, ac yn dosbarthu cyfrifoldebau'n dda. Ceir llinellau cyfathrebu clir ac mae deialog agored a gonest yn datblygu dealltwriaeth staff o'u rôl wrth helpu i symud yr ysgol yn ei blaen. Mae arweinwyr yn gosod disgwyliadau uchel, ac maent yn cefnogi ac yn herio staff i fodloni'r rhain yn llwyddiannus.

• Mae yna ddiwylliant cadarnhaol o rannu arfer ac addysgeg effeithiol yn y cyfnod sylfaen, sy'n ysgogi disgyblion ac yn eu hysgogi'n llwyddiannus iawn. Mae'r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o bartneriaethau strategol gydag ysgolion lleol eraill i gefnogi dysgu proffesiynol yr holl staff. Mae'r gwaith hwn yn cael effaith gadarnhaol ar sawl agwedd ar waith yr ysgol.
Dywedodd Charlotte Bowers, Cadeirydd y corff llywodraethol: "Rydym yn falch iawn o gael adroddiad mor gadarnhaol gan yr arolygwyr. Mae'n adlewyrchu'n wirioneddol yr ethos yn ein hysgol o weithio mewn cymuned lle mae'r disgyblion wrth galon popeth a wnawn.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ganmol y staff i gyd am eu hymdrechion diflino yn yr hyn a wnânt i ddarparu'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'n plant. Mae disgyblion yn elwa ar gymryd rhan mewn ystod eang o fentrau wrth iddynt ddatblygu i fod yn ddysgwyr hyderus sydd wedi'u paratoi ar gyfer eu haddysg cynradd a'r byd ehangach.

"Wrth gwrs, rydym bob amser yn ceisio gwella'r hyn a wnawn a byddwn yn gweithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad".

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol y Cabinet dros Addysg, gwasanaethau plant ac ymgysylltu: "Mae hwn yn adroddiad arolygu gwych ar gyfer yr ysgol a hoffwn ddiolch a chanmol y tîm i gyd yn Sain Llanelwy am eu hymroddiad a'u hymrwymiad.

"Mae'r adroddiad ei hun yn tynnu sylw at lawer o gryfderau'r ysgol, gan gynnwys faint o gefnogaeth, arweiniad a mentora y mae ein disgyblion yn eu derbyn a'r cyswllt cryf â rhieni a gwarcheidwaid. Mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn y VP yn Llanelwy yn adlewyrchu'r ymrwymiad a wnaed yn Sir Ddinbych i roi blaenoriaeth i ddarparu addysg o safon uchel yn ei ysgolion ac ymfalchïwn yn y ffaith bod cenhedlaeth o ddisgyblion yn yr ysgol hon yn elwa ar y fath frwdfrydedd ac ymroddiad o fewn cymuned yr ysgol ".

Posted on Friday 17th January 2020